Ymchwil ar effaith astudio credoau, gwerthoedd a byd-olwg ar fyfyrwyr dros gyfnod o ddwy flynedd
Cyd-Ymchwilwyr: Yr Athro Leslie Francis (Uned Ymchwil i Grefyddau ac Addysg, Warwick - WRERU: Warwick Religions and Education Research Unit) a Dr Stephen Parker (Cymrawd Cyswllt, Uned Ymchwil i Grefyddau ac Addysg, Warwick). Noddir y project gan Ymddiriedolaeth St Pedr, Saltley ac Ymddiriedolaeth St Gabriel.
Arolwg:
Ymhlith y rhai sy’n astudio Astudiaethau Crefyddol Lefel - A ceir myfyrwyr sy’n meddu ar ffydd ac eraill nad oes ganddynt ymrwymiad penodol. Mae astudio’r newid yn eu hagwedd yn waith gwefreiddiol. Pwy yw’r myfyrwyr hyn? Beth yw eu cred am y trosgynnol yn awr? Beth yw eu hagwedd at foesoldeb a ffydd (eu ffydd hwy eu hunain ac eraill?) A yw astudio hyd at Lefel - A yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r rhain?
Ymhlith amcanion allweddol Astudiaethau Crefyddol Lefel - A, cynhwysir y canlynol: bod angen i fyfyrwyr ‘fabwysiadu agwedd ymholgar a beirniadol ynghyd ag empathi wrth astudio crefydd’ (Manyleb 2007, AG TGAU Edexel), a ‘chefnogi myfyrwyr i feddwl am, a datblygu eu gwerthoedd eu hunain, eu barn a’u hagweddau yng ngoleuni’r hyn maent yn ei ddysgu’ (Manyleb 2008 AQA, Astudiaethau Crefyddol Lefel – A) Tybed a gyflawnir yr amcanion academaidd a phersonol hyn ac yn benodol, a ydynt yn dylanwadu ar fyfyrwyr sy’n astudio eu ffydd eu hunain yn feirniadol am y tro cyntaf.
Er enghraifft, mae’n nodweddiadol fod rhai Cristnogion sy’n dechrau ar astudiaeth academaidd o grefydd, yn aml yn profi argyfwng personol ac yn teimlo’r angen, naill ai i wrthod neu i dderbyn y wybodaeth newydd a gyflwynir. A yw’r her hon o safbwynt y ffydd sydd ganddynt yn barod, yn wir am y rhai sy’n meddu ar unrhyw ffydd (neu heb feddu ar ffydd o gwbl)? Yn benodol, a yw myfyrwyr sy’n astudio eu ffydd eu hunain a’r cwestiynau sydd ynghlwm wrthi y mae’n rhaid eu trafod yn feirniadol wrth astudio ar y lefel hon, yn teimlo eu bod yn gwestiynau sy’n eu herio a sut maent yn ymateb? A yw’r profiad o wneud Astudiaethau Crefyddol Lefel-A yn un cythryblus o safbwynt yr her mae’n ei chyflwyno i fyd-olwg myfyrwyr? A yw ffydd myfyrwyr neu eu hagwedd tuag at ffydd yn newid o ganlyniad i’w hastudiaethau? Ym mha ffyrdd mae agweddau myfyrwyr tuag at eu ffydd neu eu gwerthoedd wedi newid (os o gwbl)? A yw astudio Astudiaethau Crefyddol Lefel - A yn effeithio ar fyfyrwyr sy’n meddu ar ffydd mewn ffordd wahanol i’r sawl nad oes ganddynt ymrwymiad crefyddol? Dim ond ychydig o ymchwil cymharol o berspectifau ffydd a wnaethpwyd ar draws persbectifau ffydd (a grwpiau heb ffyd ) er mwyn archwilio newidiadau mewn agweddau a gwerthoedd ar draws y grwpiau o ganlyniad i’r profiad o ddilyn cwrs Astudiaethau Crefyddol Lefel - A.
Y Broses a Gwahoddiad:
Mae’r astudiaeth hon yn ymwneud â’r effaith a gafodd Astudiaethau Crefyddol Lefel-A ar fyfyrwyr dros gyfnod o ddwy flynedd gan archwilio eu hagweddau trwy gyfrwng holiadur, a hynny yn ystod tri chyfnod ar draws eu rhaglen waith. Cesglir y data a gynhwysir yn yr holiaduron, ei ddadansoddi a’i ddehongli, a dosberthir y canlyniadau mewn nifer o wahanol ffyrdd. Ni fydd myfyrwyr nac ysgolion / colegau unigol yn cael eu henwi yn yr adroddiadau ar y gwaith ymchwil. Rydym yn gwahodd cydweithwyr i gymryd rhan yn yr ymchwil hwn trwy:
Yn gyfnewid am hyn bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn derbyn adroddiad unigol byr am eu canolfan hwy.
Pe hoffech gymryd rhan, a fyddech mor garedig â chysylltu â Gareth Longden (01244532350)
* Telir cost cludiant
Beth nesaf?
Beth am aros dros nos yn Llyfrgell Deiniol Sant neu drefnu encil byr ar gyfer astudiaeth bersonol? Fe welwch fod yma awyrgylch heddychlon a chyfeillgar ac yn gyfeillgar, ac wrth gwrs, mae yma lyfrgell helaeth gyda dros 250,000 o destunau sy'n ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan arbenigo yn ein meysydd craidd sef Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Fictoraidd.
Bwrw golwg ar fanylion yngl?n â'n cyrsiau a'n rhwydweithiau
Ffôn: +44 (0)1244 532 350
Ffacs: enquiries@stdeiniols.org