‘Fe wnes i fwynhau gwneud yr arolwg hwn. Fe wnaeth i mi feddwl o ddifrif.’
‘Pleser. Does dim llawer o bobl eisiau clywed beth sydd gennym ni i’w ddweud.’
‘Mae hyn wedi fy helpu i wybod beth ydw i’n ei gredu.’
Dyma dri sylw yn unig o’r nifer helaeth o sylwadau cefnogol a gafwyd gan y 33,982 disgybl led led Cymru a Lloegr a gymrodd ran yn yr arolwg y Religion and Values. Bu cyfanswm o 164 ysgol yn cymryd rhan yn yr arolwg lle gwahoddwyd eu holl ddisgyblion ym mlynyddoedd naw a deg i gwblhau holiadur manwl.
Roedd yr holiadur yn hawdd i athrawon ei weinyddu ac i ddisgyblion ei lenwi. Fe’i cynlluniwyd yn broffesiynol fel y gallai disgyblion gofnodi eu safbwynt trwy dicio blychau neu roi cylch o amgylch categorïau penodol .
Derbyniwyd llawer o wybodaeth werthfawr i ysgolion, rhieni, y rhai sy’n llunio polisïau a phawb sy’n ymwneud â lles pobl ifanc, trwy gyfrwng yr arolwg hwn. Cyhoeddwyd y llyfr diweddaraf a ddeilliodd o’r arolwg, Urban Hope and Spiritual Health gan Leslie J Francis a Mandy Robbins yn Chwefror 2006.
Mapio tueddiadau
Cynhaliwyd yr arolwg Religion and Values ar ddiwedd y 1990au ac mae eisoes wedi dechrau dyddio. Rhaid diweddaru’r astudiaeth ac rydym yn gofyn am eich helpu chi i wneud hyn. Gwahoddir pob ysgol uwchradd trwy Gymru a Lloegr i gymryd rhan. Mae’r arolwg yn cynnwys yr holl feysydd craidd a gynhwyswyd yn yr astudiaeth gwreiddiol, ond ychwanegwyd meysydd newydd ato. Mae’r arolwg newydd yn ymdrin â’r themâu canlynol, ymhlith eraill:
Lles personol
Mae lles personol yn ymwneud â’r ffordd mae pobl ifanc yn teimlo amdanynt hwy eu hunain. Pa mor werthfawr ydynt fel unigolion, yn eu tyb hwy? I ba raddau maent yn teimlo fod pwrpas i’w bywyd? A yw bywyd yn werth ei fyw yn eu barn hwy? Ar y llaw arall, pa mor ymwybodol ydynt o’r ochr dywyll i fywyd? Faint ohonynt sy’n dioddef o iselder? Faint ohonynt sydd wedi coleddu syniadau ynglyn â hunan-laddiad oherwydd y pwysau sydd arnynt?
Pryderon
Mae cwestiynau ynglyn â phryderon yn dwyn ynghyd faterion y gwyddom fod pobl ifanc yn gofidio amdanynt. Faint ohonynt sy’n pryderu ynglyn â’u perthynas ag eraill,pa mor ddeniadol ydynt i’r rhyw arall neu’n pryderu ynglyn â’u bywyd rhywiol? I ba raddau maent yn pryderu am siâp eu cyrff, ennill pwysau, neu gael AIDS/HIV?
Ysgol
Mae’r adran hon yn ymwneud â gwerthoedd sy’n gysylltiedig â’r ysgol. Pa mor hapus yw’r disgyblion yn yr ysgol? Pa mor bryderus ydynt ynglyn â’u gwaith ysgol, arholiadau ysgol, neu gael eu bwlio yn yr ysgol?
Amser hamdden
Mae’r adran hon yn ymwneud â’r gwerth a roddir ar amser hamdden gan bobl ifanc. Pa mor fodlon ydynt ar eu hamser hamdden? Faint ohonynt fyddai’n dymuno cael mwy o bethau i’w gwneud yn ystod eu hamser hamdden, neu a ydynt yn cicio’u sodlau gyda’u ffrindiau heb ddim i’w wneud? Beth yw eu teimlad hwy ynglyn ag agwedd eu rheini at yr hyn maent yn ei wneud yn eu hamser hamdden?
Credoau crefyddol
Mae’r adran hon yn ymwneud â gwerth crefydd i bobl ifanc. Beth yw’r cyfartaledd o bobl ifanc sy’n credu yn Nuw? Faint sy’n credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth, nefoedd, uffern ac adenedigaeth? Beth, yn eu tyb hwy, yw lle Cristnogaeth a chrefyddau mawr eraill y byd yn y gymdeithas heddiw?
Crefydd a gwyddoniaeth
Beth mae pobl ifanc yn ei feddwl am y drafodaeth rhwng crefydd a gwyddoniaeth? I ba raddau maent yn credu fod tyndra rhwng yr hyn a honna gwyddoniaeth yw’r gwir a’r hyn a honnir gan grefydd sydd wir? Faint o bobl ifanc sy’n edrych ar wyddoniaeth yn anfeirniadol?
Credoau heb fod yn draddodiadol
Beth mae pobl ifanc yn ei wneud o’r amrywiaeth eang o gredoau sy’n gyffredin yn y gymdeithas o’u cwmpas? Faint ohonynt sy’n credu yn eu horosgop, er enghraifft? Faint sy’n credu mewn cardiau tarot neu fod pobl dweud ffortiwn yn gallu rhagfynegi’r dyfodol? Ydy rhai pobl ifanc yn credu, mewn gwirionedd, mewn fampiriaid?
Gwleidyddiaeth
Mae’r adran hon yn ymwneud â gwerthoedd gwleidyddol pobl ifanc. Oes gan bobl ifanc ffydd yn y prif bleidiau gwleidyddol? Faint ohonynt sydd eisoes yn amheus ynglyn â’r holl broses wleidyddol gan gredu nad oes dim gwahaniaeth pa blaid wleidyddol sydd mewn grym.
Gofid ynglyn â materion byd-eang
Mae’r adran hon yn asesu sut mae pobl ifanc yn teimlo ynglyn â’r bygythiadau sy’n bodoli yn y byd heddiw. Faint ohonynt sy’n pryderu ynglyn â therfysgaeth, y posibilrwydd o ryfeloedd biolegol a chemegol, neu’r posibilrwydd o weithgaredd niwclear? Aydynt yn teimlo fod eu barn hwy’n cyfrif neu a ydynt yn teimlo’n ddiymadferth o safbwynt datrys problemau’r byd?
Materion amgylcheddol
Pa mor bryderus yw pobl ifanc heddiw ynglyn â materion amgylcheddol? A ydynt yn pryderu ynglyn â’r perygl o lygredd yn yr amgylchedd? A ydynt yn gwneud ymdrech i arbed adnoddau ynni’r byd neu’n ailgylchu deunyddiau? A ydynt yn pryderu ynglyn ag anifeiliaid a phlanhigion yn darfod?
Sylweddau
Mae’r adran hon yn gwneud arolwg eang o agweddau pobl ifanc at gaffein, tybaco ac alcohol cyn symud ymlaen i ddangos eu hagwedd at sylweddau, ecstasy, speed a chyffuriau eraill.
Moesoldeb rhyw
Mae’r adran hon yn archwilio agweddau at briodas, gwrywgydiaeth, atal cenhedlu, ysgariad, erthyliad a phornograffiaeth. Beth yw barn pobl ifanc heddiw ynglyn â materion o’r fath?
Manteision i'r ysgol
Yn ogystal â’n helpu ni i fapio safbwyntiau pobl ifanc yng Nghymru, mae manteision gwirioneddol eraill hefyd i’r ysgolion sy’n cymryd rhan. Mae’r arolwg yn wir yn ennyn diddordeb nifer o’r disgyblion gan eu gorfodi i feddwl am nifer o faterion o bwys. Yna, gall yr ysgolion sy’n cymryd rhan olrhain ymhellach ddiddordeb eu disgyblion yn y gwersi dilynol.
Cliciwch yma ar gyfer llwytho i lawr daflen gwybodaeth a ffurflen gais ar ffurf pdf.
Beth nesaf?
Beth am aros dros nos yn Llyfrgell Deiniol Sant neu drefnu encil byr ar gyfer astudiaeth bersonol? Fe welwch fod yma awyrgylch heddychlon a chyfeillgar ac yn gyfeillgar, ac wrth gwrs, mae yma lyfrgell helaeth gyda dros 250,000 o destunau sy'n ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan arbenigo yn ein meysydd craidd sef Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Fictoraidd.
Bwrw golwg ar fanylion yngl?n â'n cyrsiau a'n rhwydweithiau
Ffôn: +44 (0)1244 532 350
Ffacs: enquiries@stdeiniols.org