Parhad mewn Datblygiad Proffesiynol Achrededig

Mae Canolfan y Santes Fair yn Llyfrgell Deiniol Sant mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndwr yn cynnig menter newydd a hyblyg sef Rhaglen Ddoethuriaeth Broffesiynol DMin sy’n ymgorffori cymwysterau canolraddol:

  • Tystysgrif Ôl-Radd mewn Crefydd ac Addysg
  • Diploma Ôl-Radd mewn Crefydd ac Addysg
  • MA mewn Crefydd ac Addysg

Pwrpas y rhaglen ran-amser, dysgu o bell yw chefnogi parhad mewn datblygiad proffesiynol addysgwyr sy’n ymwneud â chrefydd a ffydd. Mae cryfderau arwyddocaol y rhaglen yn cynnwys y gallu i ymateb i ddiddordebau’r unigolyn yng nghyd-destun y gweithle ac fe’i haddysgir hi gan gyfadran sy’n parhau i dyfu - 16 o staff profiadol sy’n ymwneud â gwaith ymchwil. Corff dyfarnu’r DMin mewn Crefydd ac Addysg yw Prifysgol Cymru. Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen ar gael ar wefan y Santes Fair.