Canolfan St Giles ar gyfer Addysg Grefyddol a Datblygu Ffydd

Mae Canolfan St Giles ar gyfer Addysg Grefyddol a Datblygu Ffydd yn fenter newydd gyffrous, gyda’r bwriad o greu man bywiog oddi mewn i eglwys St Giles, Wrecsam i wneud mwy o ddefnydd a hynny’n fwy hyblyg o’r adeilad gan ysgolion, grwpiau cymunedol, a’r eglwys. O safbwynt materol, gwneir nifer o welliannau i adeilad yr eglwys, gan gynnwys gwneud defnydd o dechnegau a thechnoleg yr unfed ganrif ar hugain i greu lle ar gyfer gweithgareddau hyblyg trwy gyfrwng sgriniau symudol.

Bydd Canolfan St Giles yn datblygu ffyrdd newydd o ymweld ag eglwys ynghyd â defnyddio adeilad eglwysig gan ysgolion i helpu plant a phobl ifanc ddeall sut mae’r adeilad yn parhau i siarad am Dduw heddiw. Bydd y Ganolfan hefyd yn gweithio er mwyn adeiladu ffydd ei haelodau a grwpiau cymunedol yn ogystal â lledaenu dylanwad yr eglwys o fewn y gymuned. Trwy gydweithredu â’i gilydd, y gobaith yw y bydd Sefydliad Addysgol Blwyfol Wrecsam, Canolfan y Santes Fair a Llyfrgell St Deiniol yn creu projectau i ddatblygu’r cwricwlwm ac yn ystyried sut y gall ffrwyth ymchwil i ddatblygiad crefyddol ddylanwadu ar addysgu a dysgu AG a datblygu ffydd. Amcan yr holl agweddau hyn yw hyrwyddo rhagoriaeth mewn AG a datblygu ffydd, yn lleol ac yn genedlaethol trwy Gymru.

Penodwyd Gavin Craigen yn Gyfarwyddwr Gweithredol Canolfan St Giles ac mae’n meddu ar lawer o brofiad ac arbenigedd. Bu’n Arolygwr/ Ymgynghorydd AG a Swyddog CYSAGau Conwy, Sir Ddinbych a Sir Fflint. Yn ogystal, bu Gavin yn Brif Arholwr Astudiaethau Crefyddol TGAU am flynyddoedd, yn Gadeirydd CYSAGau Cymru a Chadeirydd y Panel Ymgynghorol Cenedlaethol ar gyfer AG yng Nghymru. Yn ychwanegol at ei rôl newydd yng Nghanolfan St Giles, ef yw Prif Safonwr ar gyfer AG Cyfnod Allweddol 3 gyda CBAC.