Adolygiad Addysg yr Eglwys yng Nghymru

Lansiwyd Adolygiad Addysg yr Eglwys yng Nghymru gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ar 17 Medi 2009. Mae hwn yn adroddiad arwyddocaol ac eang, ac iddo oblygiadau arbennig i ddatblygiad ysgolion eglwysig yng Nghymru. Mae Canolfan y Santes Fair yn edrych ymlaen at gefnogi ysgolion eglwysig yng Nghymru er mwyn cyflawni’r weledigaeth y mae’r adolygiad hwn yn ei hyrwyddo. Ymhen pum mlynedd bwriedir adolygu’r cynnydd a wnaethpwyd o safbwynt yr argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad. Gellir dadlwytho copi o’r Adolygiad Addysg yr Eglwys yng Nghymru o wefan yr Eglwys yng Nghymru