Cylchgrawn newydd i gefnogi AG yng Nghymru

Yn ddiweddarach ym mis Awst,cyhoeddir rhifyn cyntaf y cylchgrawn arlein newydd, AGweddau (ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg). Mae AGweddau yn darparu erthyglau i’r sawl sy’n ymwneud yn broffesiynol ag AG ar ddatblygu’r cwricwlwm, ymchwil, crefydd a diwylliant, ac adnoddau. Mae AGweddau’n adnodd di dâl a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn, a gellir cael mynediad iddo trwy wefan Canolfan y Santes Fair yn ogystal â Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru. Cefnogir y cylchgrawn trwy gyfrwng cylchlythyr, y Bwletin-AG sy’n darparu eitemau byr o ‘newyddion’ perthnasol i AG yng Nghymru.