Mannau Addoli

Cyfres o chwe llyfr stori i blant rhwng 5 a 7 oed yw Mannau Addoli sy’n archwilio mannau arbennig  mewn chwe gwahanol draddodiad crefyddol: Cristnogaeth, Iddewiaeth, Islam, Hindwaeth, Sikhaeth, a Bwdhaeth

Mae dau deitl yn y gyfres a gyhoeddwyd gan RMEP ar gael yn awr. Mae fersiynau Cymraeg wedi eu cyhoeddi gan RMEP mewn cydweithrediad â Chanolfan y Santes Fair.

Gartref ac yn yr Eglwys

Gartref ac yn yr Eglwys

Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno dau o blant sy’n Gristnogion: Tom a’i deulu sy’n mynd i eglwys Anglicanaidd a Megan a’i theulu sy’n mynd i gapel y Bedyddwyr.

Mae’r llyfr yn archwilio’r agweddau allweddol ar addoli yn y ddwy eglwys trwy lygaid y plant.

Pwrpas y llyfrau stori yw ategu cwricwlwm y Cam Sylfaen a’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Cyflwyno Addysg Grefyddol i Ddysgwyr 3 a 19 oed yng Nghymru.

Bydd y plant yn canolbwyntio ar, ac yn trafod y tebygrwydd rhyngddynt yn ogystal â’r gwahaniaethau, a rhestrir hwy ar gyfer athrawon yn eu llawlyfr ac yn y Llyfr Mawr.

            Gallwch archebu’r Llyfr Mawr gan y cyhoeddwyr am £15.99

            Gallwch archebu Llyfr y Disgybl gan y cyhoeddwyr am £2.99

            Gallwch archebu Pecyn y Disgybl gan y cyhoeddwyr am £14.99

Home and the synagogue

Gartref ac yn y Synagog

Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno dau o blant Iddewig. Mae teulu Rachel yn mynd i synagog Uniongred a theulu David yn mynychu synagog Ddiwygiedig. Trwy lygaid y plant mae’r llyfr yn archwilio’r prif nodweddion yn eu haddoliad gartref ac yn y ddwy synagog.

Mae’r llyfr yn archwilio’r agweddau allweddol ar addoli yn y ddwy synagog trwy lygaid y plant.

Pwrpas y llyfrau stori yw ategu cwricwlwm y Cam Sylfaen a’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Cyflwyno Addysg Grefyddol i Ddysgwyr 3 a 19 oed yng Nghymru.

Bydd y plant yn canolbwyntio ar, ac yn trafod y tebygrwydd rhyngddynt yn ogystal â’r gwahaniaethau, a rhestrir hwy ar gyfer athrawon yn eu llawlyfr ac yn y Llyfr Mawr.

            Gallwch archebu’r Llyfr Mawr gan y cyhoeddwyr am £15.99

            Gallwch archebu Llyfr y Disgybl gan y cyhoeddwyr am £2.99

            Gallwch archebu Pecyn y Disgybl gan y cyhoeddwyr am £14.99

Newsletter Signup
» Bwrw golwg ar sampl
Enw llawn
Eich ebost