Comisiynwyd y Gyfres Mannau Cristnogol Arbennig ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen gan ACCAC (APADAGOS erbyn hyn). Yr awduron yw Leslie J Francis a Diane Drayson. Mae’r gyfres yn cynnwys 6 llyfr stori gyda Llawlyfr Athrawon i’w hategu ac maent ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Ymunwch ag Aled a Siân wrth iddynt archwilio chwe eglwys a chapel gwahanol iawn i’w gilydd gan ddysgu am y flwyddyn Gristnogol, y bywyd Cristnogol a Christnogion yn gwasanaethu eraill.
Mae copïau o Gyfres Mannau Cristnogol Arbennig ar gael gan Gyngor Llyfrau Cymru a chatalog y TTS.
Gwasanaeth Bedydd
Yn y Gwasanaeth Bedydd mae Siân ac Aled yn ymweld ag Eglwys Babyddol lle mae eu cefnder yn cael ei fedyddio.
Diolchgarwch am y Cynhaeaf
Yn y Diolchgarwch am y Cynhaeaf mae Aled a Siân yn ymweld â chapel y Bedyddwyr lle maent yn mynd â rhoddion i wasanaeth Diolchgarwch am y Cynhaeaf.
Gwasanaeth Teuluol y Pasg
Yn y Gwasanaeth Teuluol y Pasg mae Aled a Siân yn ymweld â chapel Presbyteraidd lle maent yn cymryd rhan yng ngwasanaeth y Pasg.
Gwasanaeth Preseb y Nadolig
Yn y Gwasanaeth Preseb y Nadolig mae Aled a Siân yn cymryd rhan mewn gwasanaeth Nadolig mewn eglwys Babyddol.
Y Capel Mawr
Yn Y Capel Mawr mae Aled a Siân yn ymweld â chapel mawr a ddefnyddir gan yr holl enwadau lleol i gyflawni anghenion y gymuned.
Gwasanaeth Priodas
Yn Gwasanaeth Priodas mae Aled a Siân yn ymweld ag Eglwys Anglicanaidd lle maent yn was bach a morwyn briodas.
Archwilio Mannau Cristnogol Arbennig
Mae Archwilio Mannau Cristnogol Arbennig: Llawlyfr Athrawon yn cynnwys gwybodaeth ynglyn â’r cefndir ar gyfer athrawon a thaflenni gwaith y gellir eu llungopïo i ddisgyblion.