
Comisiynwyd y Gyfres Crefyddau’r Byd gan APADAGOS ar gyfer disgyblion CA2 ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Rheolwyr project y gyfres a’u hawduron oedd Leslie J Francis a Tania ap Siôn ynghyd â Diane Drayson.
Mae’r gyfres yn cynnwys saith llyfr stori 32 tudalen gyda lluniau lliw ar gyfer disgyblion CA2 (fformat 246 x 171mm), a Llawlyfr Athrawon maint A4 gyda rhwymiad troellog. Cynhwysir ynddo wybodaeth drwyadl o’r cefndir ar gyfer athrawon a gweithgareddau a thaflenni gwaith y gellir eu llungopïo.






Mae teitlau’r llyfrau stori’n cynnwys:
Mae’r fformat sylfaenol yn debyg ym mhob llyfr stori. Gwahoddir disgyblion i fyd cyffrous Rhys a Sara, byd sy’n procio’r meddwl wrth iddynt archwilio gwahanol grefyddau’r byd ac enwadau Cristnogol gyda’u ffrindiau o’r gwahanol draddodiadau crefyddol.
Rhennir pob llyfr yn bump pennod yn ymwneud â themâu penodol gan ganolbwyntio ar ddangos y berthynas rhwng cred a’i harfer. Mae’r themâu’n trafod: ymweld â man addoliad, dydd gwyl, awdurdod (person/llyfr arbennig), gofalu am eraill ac am y byd, a bwyd arbennig.
Ar ddiwedd pob stori, gwahoddir disgyblion i ymuno â Rhys a Sara i feddwl am y pethau sy’n arbennig iddynt hwy a sut mae’r rhain yn effeithio’n ymarferol ar eu bywydau. Beth fyddem ni’n ddewis ei rannu â ffrindiau?
Gwnaethpwyd gwaith ymchwil trylwyr ar gyfer pob llyfr ac fe’u sylfaenwyd yn rhannol, ar gymunedau a mannau addoli real yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r copïau o’r Gyfres Crefyddau'r Byd Heddiw ar gael gan Gyngor Llyfrau Cymru a chatalog y TTS.