Mae Cyfadran Athrawon Gwadd a Chymrodyr Ymchwil Gwadd mewn Diwinyddiaeth yn Llyfrgell Sant Deiniol a Phrifysgol Glyndwr yn datblygu rhaglen MPhil ac astudiaethau PhD mewn Diwinyddiaeth Ymarferol ac Empiraidd ac Addysg Grefyddol. Mae’n rhaglen ddelfrydol ar gyfer athrawon a chlerigwyr sy’n dymuno llunio astudiaeth ran-amser yn y meysydd hyn gyda chefnogaeth, ac o fewn cyd- destun y Llyfrgell breswyl. Mae projectau cyfredol yn cynnwys astudiaethau empiriaidd o:
Yn ogystal, ceir cyfleoedd ar gyfer astudiaethau llawn-amser. Yn Ionawr 2010 dyfarnwyd yr ysgoloriaeth ymchwil breswyl lawn-amser gyntaf yn y Llyfrgell i Ms Gemma Penny, lle bydd yn cyfrannu at y Project Crefydd a Gwerthoedd Pobl Ifanc. Erbyn hyn, mae’r ail ysgoloriaeth ymchwil ar gael ym maes Astudiaeth o Eglwysi Cadeiriol. Ceir gwybodaeth bellach am yr ysgoloriaethau gan weinyddwr Canolfan y Santes Fair.