DMin Crefydd ac Addsyg

Mae’r DMin mewn Crefydd ac Addysg yn cynnig rhaglen hyblyg a chreadigol mewn datblygiad parhaol proffesiynol ar gyfer chlerigwyr, lleygwyr/wragedd ac athrawon. Mae’r rhaglen yn hyrwyddo arfer wedi ei sylfaenu ar dystiolaeth ar fyfyrdod.

Daw’r rhai sy’n cymryd rhan i’r Llyfrgell am dri chwrs preswyl bob blwyddyn. Ym mlwyddyn un, gofynnir am ddau aseiniad 6000 o eiriau wedi eu sylfaenu ar waith ymchwil (sy’n arwain at dystysgrif ôl-radd). Ym mlwyddyn dau, gofynnir am ddau aseiniad o 6000 o eiriau wedi eu sylfaenu ar waith ymchwil (sy’n arwain at ddiploma ôl-radd).

Ym mlwyddyn 3 gofynnir am draethawd hir 18,000 o eiriau wedi ei sylfaenu ar waith ymchwil (sy’n arwain at radd MA). Ym mlynyddoedd pedwar, pump a chwech gofynnir am draethawd hir o 45,000 o eiriau wedi ei sylfaenu ar waith ymchwil.

Trwy gydol y rhaglen gwahoddir myfyrwyr i glustnodi  problemau sy’n berthnasol iddynt hwy eu hunain, i archwilio gweinidogaeth, addysg neu grefydd. Yna, ymdrinnir â phob problem trwy ddynodi dull ymchwil addas. Rhoddir pwyslais arbennig ar ddulliau empiraidd.

Ar hyn o bryd, mae’r seminarau preswyl yn glystyrau o amgylch y prif themâu gan gynnwys Gweinidogaeth Wledig, Ysgolion Eglwysig, Ysbrydolrwydd Cyfredol, a Chrefydd Ymhlyg. Cynigir y DMin mewn Crefydd ac Addysg gan y Llyfrgell mewn cydweithrediad â Choleg Glyndwr.

Astudiaethau mewn Gweinidogaeth Wledig

Mae’r Ganolfan Astudiaeth mewn Gweinidogaeth Wledig yn cynnig llwybr trwy’r DMin mewn cydweithrediad â Chanolfan Arthur Rank. Arweinydd y rhaglen yw’r Canon Jeremy Martineau.

Mae projectau diweddar y bu ymgeiswyr yn eu harchwilio’n cynnwys:

  • Cyfraniad ysgol y pentref i fywiogrwydd cymuned.
  • Pwy sy’n ymweld â phabell yr eglwys yn y sioe amaethyddol?
  • Effeithlonrwydd tîm sy’n gweithio mewn clystyrau o eglwysi.
  • Gwahaniaeth mewn arferion rhwng clerigwyr Anglicanaidd a Methodistaidd (y Wesleaid).
  • Perthnasedd barn pentrefi ynglyn â gwerth yr eglwys.
  • Gweinidogaeth siop elusennol Gristnogol

Cyhoeddwyd y gwaith a wnaethpwyd yn y rhaglen Country Way a Rural Theology ac mae’n helpu  i ddatblygu’r ymarfer o fyfyrdod wedi ei sylfaenu ar waith ymchwil yn yr eglwys wledig.

Rhoddir cyfle, anogaeth a chefnogaeth i faterion o bwys i weinidogaeth a cenhadaeth yr eglwys mewn ardaloedd gwledig ac felly, i wella ansawdd gweinidogaeth yr ymchwilydd ynghyd â dylanwadu ar bolisi’r eglwys yn y meysydd hyn.

Astudiaethau mewn Ysgolion Eglwysig

Mae Astudiaethau mewn Ysgolion Eglwysig yn cynnig llwybr trwy’r DMin mewn cydweithrediad â’r Eglwys yng Nghymru . Arweinydd y rhaglen yw Dr David Lankshear.

Ymhlith projectau ymchwil diweddar ceir:

  • Agweddau disgyblion at gydaddoli.
  • Yr alwad i addysgu.
  • Arweiniad Cristnogol mewn ysgolion cynradd.

Astudiaethau mewn Ysbrydolrwydd Cyfoes a Chrefydd Ymhlyg

Mae’r ffrwd Ysbrydolrwydd Cyfoes a Chrefydd Ymhlyg yn cynnig llwybr trwy’r DMin mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Astudiaeth Crefydd Ymhlyg ac Ysbrydolrwydd Cyfoes. Arweinydd y rhaglen yw’r Athro Ganon Edward Bailey.

Gall testunau gynnwys cwestiynau sydd yn amlwg o ddiddordeb eglwysig, fel y rheswm dros ofyn am fedyddio plentyn, neu fyd-olwg y rhai sy’n cytuno â/ gwrthwynebu newidiadau’n ymwneud â rhyw, fel dewis merched yn esgobion neu briodasau pobl o’r un rhyw.

Mae testunau eraill yn debygol o fod yn ymwneud â’r canlynol:

  • Beth sy’n ysgogi pobl yn eich ardal chi a beth yw eu gobeithion?
  • Am beth mae pobl yn dyheu? Beth yw dedwyddwch yn eu barn hwy?
  • Pa argyhoeddiadau na ellir eu newid mae pobl yn eu coleddu yn eich plwyf chi? Beth am eich cynulleidfa? Oes yna wahaniaeth rhyngddynt?

Mewn geiriau eraill pa ysbrydoedd sy’n dylanwadu ar bobl? Sut maent yn  ymagweddu at yr Ysbryd Glân? Sut gallai’r Eglwys ymateb er mwyn eu bendithio (neu gael gwared ag ysbrydion aflan?)

Am wybodaeth bellach ar gyfer y Rhaglen DMin cysylltwch â Mr Gareth Longden, Gweinyddwr yng Nghanolfan y Santes Fair.

Newsletter Signup
» Bwrw golwg ar sampl
Enw llawn
Eich ebost