Croeso i'r Santes Fair
Croeso i'r Santes Fair
Canolfan y Santes Fair yn Llyfrgell Deiniol Sant yw’r ganolfan genedlaethol sy’n cefnogi addysg grefyddol yng Nghymru. Sylfaenwyd y ganolfan ar 1 Awst 2008 trwy gyfrwng partneriaeth ddeinamig rhwng Llyfrgell Deiniol Sant, Penarlâg ac Ymddiriedolaeth y Santes Fair, Bangor. Amcan y Ganolfan newydd yw hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysg grefyddol yng Nghymru a chynrychioli Cymru yn y maes hwn yn rhyngwladol yn ogystal ag ym Mhrydain.
Rydym yn gweithio i hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysg grefyddol trwy gyfrwng y ddarpariaeth ganlynol:
- Cefnogi datblygu’r cwricwlwm trwy gyhoeddi adnoddau ar gyfer addysg grefyddol
- Darparu deunyddiau Cymraeg ar gyfer cyd addoli mewn ysgolion cynradd ac uwchradd mewn cydweithrediad â’r SPCK
- Cynhyrchu cylchgrawn di-dâl arlein dan y teitl AGweddau ar gyfer y rhai sy’n ymdrin ag AG yn broffesiynol
- Cyd gysylltu cyfraniad Cymru i brojectau ymchwil Prydeinig a rhyngwladol sy’n berthnasol i addysg grefyddol
- Cynnig cyrsiau sy’n ennill credydau mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndwr i athrawon a chlerigwyr ym meysydd addysg grefyddol, astudiaethau ysgolion eglwysig, diwinyddiaeth wledig, a chrefydd ymhlyg
- Cynnal cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n ymwneud â chrefydd ac addysg grefyddol
- Sefydlu partneriaeth i gydweithio â chyhoeddwyr a chyrff eraill ym Mhrydain i ddatblygu a hyrwyddo adnoddau o ansawdd uchel sy’n berthnasol i addysg grefyddol yng Nghymru.


