Addoliad yn yr Ysgol

Bwriad y Wefan Gwasanaethau Addoli yw darparu gwasanaethau addoli o ansawdd uchel ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd gyda mynediad ar unwaith iddynt,  ar gyfer athrawon ac eraill sy’n arwain cyd addoliad. Mae ar gael i hyrwyddo arfer da ac i helpu ysgolion i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol ar gyfer cyd addoli. Safbwynt Cristnogol a gynigir yma ond mae’r wefan yn amcanu at ddarparu adnodd y gellir ei ddefnyddio mewn amrediad eang o ysgolion, ac mae’r gwasanaethau addoli a gynigir wedi eu cynllunio ar gyfer pob plentyn, waeth beth fo’u crefydd a’u cefndir diwylliannol. Bydd gwasanaethau addoli newydd yn cael eu postio ar y wefan bob mis.

Mae Canolfan y Santes Fair yn ddiolchgar i’r SPCK am eu caniatâd i gyfieithu a chyhoeddi eu deunydd.

| Ceir fersiwn Gymraeg o’u hadnoddau ar gyfer gwasanaethau addoli yma

Noddwyd y deunydd Saesneg yn wreiddiol gan Ymddiriedolaeth Dulverson. Mae’r hawlfraint yn parhau’n eiddo i’r SPCK. Noddwyd y cyfieithiadau o’r gwasanaethau addoli mewn ysgolion uwchradd gan Fudiad Addysg Grefyddol Cymru.


Beth nesaf?
Beth am aros dros nos yn Llyfrgell Deiniol Sant neu drefnu encil byr ar gyfer astudiaeth bersonol? Fe welwch fod yma awyrgylch heddychlon a chyfeillgar ac yn gyfeillgar, ac wrth gwrs, mae yma lyfrgell helaeth gyda dros 250,000 o destunau sy'n ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan arbenigo yn ein meysydd craidd sef Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Fictoraidd.

Bwrw golwg ar fanylion yngl?n â'n cyrsiau a'n rhwydweithiau

Ffôn: +44 (0)1244 532 350
Ffacs: enquiries@stdeiniols.org

Newsletter Signup
» Bwrw golwg ar sampl
Enw llawn
Eich ebost