Parhad mewn Datblygiad Proffesiynol Achrededig

Mae Canolfan y Santes Fair yn Llyfrgell Deiniol Sant mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndwr yn cynnig menter newydd ...

Canolfan St Giles ar gyfer Addysg Grefyddol a Datblygu Ffydd

Mae Canolfan St Giles ar gyfer Addysg Grefyddol a Datblygu Ffydd yn fenter newydd gyffrous, gyda’r bwriad o greu man...

Croeso i'r Santes Fair

Croeso i'r Santes Fair

Canolfan y Santes Fair yn Llyfrgell Deiniol Sant yw’r ganolfan genedlaethol sy’n cefnogi addysg grefyddol yng Nghymru. Sylfaenwyd y ganolfan ar 1 Awst 2008 trwy gyfrwng partneriaeth ddeinamig rhwng Llyfrgell Deiniol Sant, Penarlâg ac Ymddiriedolaeth y Santes Fair, Bangor. Amcan y Ganolfan newydd yw hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysg grefyddol yng Nghymru a chynrychioli Cymru yn y maes hwn yn rhyngwladol yn ogystal ag ym Mhrydain.

Rydym yn gweithio i hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysg grefyddol trwy gyfrwng y ddarpariaeth ganlynol:

  • Cefnogi datblygu’r cwricwlwm trwy gyhoeddi adnoddau ar gyfer addysg grefyddol
  • Darparu deunyddiau Cymraeg ar gyfer cyd addoli mewn ysgolion cynradd ac uwchradd mewn cydweithrediad â’r SPCK
  • Cynhyrchu cylchgrawn di-dâl arlein dan y teitl AGweddau ar gyfer y rhai sy’n ymdrin ag AG yn broffesiynol
  • Cyd gysylltu cyfraniad Cymru i brojectau ymchwil Prydeinig a rhyngwladol sy’n berthnasol i addysg grefyddol
  • Cynnig cyrsiau sy’n ennill credydau mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndwr i athrawon a chlerigwyr ym meysydd addysg grefyddol, astudiaethau ysgolion eglwysig, diwinyddiaeth wledig, a chrefydd ymhlyg
  • Cynnal cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n ymwneud â chrefydd ac addysg grefyddol
  • Sefydlu partneriaeth i gydweithio â chyhoeddwyr a chyrff eraill ym Mhrydain i ddatblygu a hyrwyddo adnoddau o ansawdd uchel sy’n berthnasol i addysg grefyddol yng Nghymru.
Library of Books

Datblygu'r cwricwlwm

Canolfan y Santes Fair yn Llyfrgell Deiniol Sant yw’r ganolf...

Cliciwch yma
St Deiniol's Library - Interior 1

Ymchwil

Mae Canolfan y Santes Fair wedi ymrwymo i gefnogi ymchwil o ...

Cliciwch yma
Adult Learning Confrence Room

Cyrsiau a Rhwydweithiau

Mae Canolfan y Santes Fair wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau ...

Cliciwch yma
Library interior balcony

Llyfrgell Deiniol Sant

Gwefan Llyfrgell Deiniol Sant

 

Cliciwch yma